P-04-415
: Cefnogaeth am bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth
Uchel
Geiriad y
ddeiseb
Rydym
yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru i bennu Parthau
CadwraethMorol
lefel gwarchodaeth uchel ac yn annog y Llywodraeth i lynnu at y
polisi hwnnw. Nodwn y beichiau sydd ar ein moroedd, methiant Cymru
i gyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth ar gyfer 2010 a’r
dystiolaeth wyddonol gadarn sy’n profi’r angen am
fesurau cadwraeth morol llawer gwell. Rydym yn cydnabod y
dystiolaeth fyd-eang gryf sy’n dangos y buddion o gael
ardaloedd gwarchodaeth morol lefel uchel ac yn rhagweld y bydd
Cymru yn gweld cymariaethau tebyg ar ôl pennu Parthau
Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth uchel. Yn benodol, gofynnwn i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru gefnogi’r alwad i ailddynodi
Gwarchodfa Natur Forol Skomer, sef unig warchodfa natur forol
Cymru, sydd heb lawer o warchodaeth ar hyn o bryd, yn ardal â
lefel gwarchodadeth uchel pan ddaw’n Barth Cadwraeth Morol
pan ddaw darpariaethau Parthau Cadwraeth Morol Deddf y Môr a
Mynediad i’r Arfordir i rym yng Nghymru.
Does yr un man yn nyfroedd Cymru sydd wedi’i ddiogelu’n
llawn rhag effeithiau uniongyrchol y fod ddynol. Mae angen Parthau
Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth uchel arnom i: ddarparu rhywle i
fywyd gwyllt morol fodoli a ffynnu heb i ni ymyrryd arnynt –
rydyn ni’n gwneud hyn ar y tir, felly ni ddylid cael safonau
is ar gyfer y môr; galluogi ecosystemau i ailsefydlu ar
ôl effeithiau uniongyrchol y fod ddynol a gwella eu
hydwythedd; diogelu’r ecosystem forol er mwyn yr holl nwyddau
a gwasanaethau mae’n eu darparu i ni ac na allwn oroesi
hebddynt; ein helpu i ddeall effeithiau pwysau’r fod ddynol
ar amgylchedd y môr a dod i ddeall sut beth yw ecosystem
forol sydd heb ei heffeithio arni gennym ni. Pwrpas Parthau
Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth uchel yw diogelu a
gwella’r ecosystemau sydd o fewn iddynt, nid diogelu
poblogaethau pysgod a physgod cregyn yn unig.
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
2
Hydref 2012
Prif
ddeisebydd: Blaise
Bullimore
Nifer y
llofnodion:298